Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar

Blant sy’n Derbyn Gofal

Dydd Mercher 29 Mehefin 2016

12.30 - 13.30

 

Aelodau’r Cynulliad yn bresennol:

David Melding AC - Cadeirydd

Julie Morgan AC

Lee Waters AC

Llyr Gruffydd AC

Hefyd yn bresennol:

Robin Lewis – Staff Cymorth Vickki Howells AC

Fiona Openshaw – Ymchwilydd ar gyfer Joyce Watson AC

Craig Lawton - Staff Cymorth Suzy Davies AC

Paula Foley - Staff Cymorth Jenny Rathbone AC

Sian Thomas – Uwch Ymchwilydd

Deborah Jones, Prif Weithredwr, Voices From Care

Rhian Williams, Ysgrifennydd Gweinyddol, Voices From Care - yn cymryd y cofnodion

Y Parchedig Philip Mangham, Cynghorwr y Gwasanaeth Addysg Catholig yng Nghymru

Leoni Oxenham - Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Hywel Dafydd - Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Tom Davies - Cymdeithas y Plant

Menna Thomas - Barnardo’s Cymru

Jackie Murphy – Tros Gynnal Plant

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan:

Dawn Bowden AC

Rachel Thomas, Swyddog Polisi, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Jane Hutt AC

Simon Thomas AC

Dr. Emily Warren, Cyfarwyddwr – Rhwydwaith Maethu Cymru

CROESO A CHYFLWYNIAD GAN Y CADEIRYDD

Dechreuodd DM y cyfarfod drwy groesawu pawb i gyfarfod cyntaf y Pumed Cynulliad.  Cafwyd cyflwyniadau rownd y bwrdd a rhoddodd DM drosolwg byr o’r Grŵp ar gyfer yr Aelodau newydd a oedd yn bresennol. Aethpwyd drwy’r Agenda a soniodd am y ddadl a oedd yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, a dywedodd ei fod yn ffodus iawn o gael cyfnod yn y ddadl i drafod cynnig y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o gryfhau gweithio rhyng-adrannol i wella’r canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal.

Nodwyd bod DM yn ystyried datblygu cynllun gwaith ar gyfer y Grŵp ar gyfer y Pumed Cynulliad yn yr hydref.

COFNODION

Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2016 a chawsant eu cymeradwyo.

Materion yn codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol: Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

Enwebodd Julie Morgan DM i barhau fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal a chytunwyd ar hynny, a chynigiodd David Melding bod Rhian Williams, Voices From Care hefyd yn parhau fel Ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp, a chytunwyd ar hynny.

AROLWG YR YMDDIRIEDOLAETH DIWYGIO CARCHARDAI AR YR ADRODDIAD ‘MEWN GOFAL, ALLAN O DRAFFERTH’

O ran adroddiad yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn ddiweddar, roedd DM yn teimlo ei fod yn nodi rhai ffeithiau diddorol iawn ynglŷn â bod fframweithiau gwneud polisi yn cael eu cydgysylltu.

Roedd yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth y DU i ffurfio is-bwyllgor cabinet i ddarparu arweiniad cenedlaethol i ddiogelu plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal rhag troseddoli diangen. Galwodd yr adroddiad hefyd am weithio ar y cyd da, rheoliad priodol a datblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru, i fod yn esiampl i wasanaethau llywodraeth leol (gwnaed yr un alwad ar gyfer Lloegr).

Cododd DM y cwestiwn o ran Llywodraeth Cymru yn dilyn eu hesiampl, i lywio is-bwyllgor y cabinet. Yna cafwyd trafodaeth fer ynghylch adroddiad Comisiynydd Plant Cymru "Y Gofal Cywir" Hawliau Plant mewn Gofal Preswyl. Roedd DM yn teimlo bod canmol arferion da yn beth da.

O ran y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddarach y prynhawn yma, cadarnhaodd DM y byddai ef yn agor y ddadl ac y byddai JM yn ei chloi. Rhai o’r meysydd a gaiff sylw efallai fydd eiriolaeth, rhianta corfforaethol, addysg, gofal preswyl ac ati. Pwysleisiodd DM mai’r brif flaenoriaeth oedd sicrhau bod materion plant sy’n derbyn gofal yn cael sylw’n gynnar yn y Pumed Cynulliad, ac i ymdrechu i sicrhau canlyniadau.

Dywedodd JM bod cynnydd mawr wedi’i wneud a bod llawer wedi’i gyflawni o ran codi proffil plant sy’n derbyn gofal, ond mae angen atgyfnerthu rhai pwyntiau.

Gofynnodd DM a oedd gan y Grŵp unrhyw gwestiynau.  O ran materion addysgol, cododd PM y cwestiwn ynghylch bod dim manylion penodol o ran plant sy’n derbyn gofal yn adroddiad ESTYN "Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal: adroddiad arfer orau”.  Ychwanegodd PM, o ran atebolrwydd, nad oedd yn argyhoeddedig bod y Grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ystyried. Awgrymwyd y dylai’r Grŵp ysgrifennu at Estyn yn gofyn iddynt gynnal arolwg thematig o ddarpariaeth addysg ar gyfer plant sy’n derbyn.

CAMAU I’W CYMRYD: DM I YSGRIFENNU AT ESTYN

O ran arfer da, nododd HD fod angen i gynllun allweddol, sy’n gysylltiedig â’r cynllun “Pan Fydda i’n Barod”, sicrhau canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Dywedodd DJ ei bod yn cytuno â’r holl bwyntiau a nodwyd, ond mae angen o hyd i ‘nodi’n fwy manwl’ beth yw canlyniadau mewn gwirionedd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan fod y stigma o fod yn derbyn gofal hefyd yn effeithio arnynt. Ychwanegodd DJ fod Voices From Care yn ymdrechu i hybu delwedd gadarnhaol i blant sy’n derbyn gofal.

Cododd JM gwestiwn am y dull Eiriolaeth Cymru Gyfan, ei fod wedi arafu ar hyn o bryd, a’i bod yn ofynnol cael dull cydgysylltiedig i gasglu’r holl wybodaeth gan ddarparwyr gwasanaethau eiriolaeth. Hoffai JM weld dull eirioli yn cael ei wthio ymlaen fel yr argymhellwyd gan Syr Ronald Waterhouse yn ei adroddiad a oedd yn nodi bod eiriolwr yn ymweld â chartrefi preswyl.

Dywedodd DM y byddai eiriolaeth yng nghynllun gwaith y Grŵp, yn ogystal â sefydlogrwydd, cyrhaeddiad addysgol a thlodi uchelgais, a phwysleisiodd bod eiriolaeth yn bwysig iawn ar sail genedlaethol.

Rhoddodd HD wybod y byddai’r Ddeddf Arolygu Rheoleiddio yn darparu cyfleoedd i ddylanwadu ar y Fframwaith Arolygu newydd ac anogodd bawb a oedd yn bresennol i gyfrannu at yr ymgynghoriadau a gaiff eu cynnal yn fuan.

Cododd DM y cwestiwn o gynnwys plant sy’n derbyn gofal mewn arolygiadau o gartrefi preswyl, gan ei fod yn teimlo bod cyfranogiad yn bwysig iawn. Dywedodd DJ nad yw plant sy’n derbyn gofal yn cymryd rhan yn rheolaidd, a bod rhai awdurdodau lleol yn haws mynd atynt nag eraill, ond ceir enghreifftiau o arfer da ac o gyfranogiad. Cododd JM y cwestiwn o anghysondeb o ran arfer da a bod eiriolaeth yn ymwneud â diogelu a chyfranogi, ac ychwanegodd fod plant a phobl ifanc yn dweud, unwaith y bydd yr arolygwyr yn mynd, nad ydynt yn cael eu gweld eto. Mewn geiriau eraill, teimlai JM bod pobl ifanc yn ‘dioddef’ ac yn ‘cadw’n ddistaw’ a mynegodd ei chred bod eiriolwyr sy’n ymweld yn dda iawn. Dywedodd DJ bod angen atgoffa pobl am y sgiliau da sydd gan bobl ifanc a’r rhai sy’n gadael gofal.

Teimlai MT, o ran cyfranogiad, bod dwy lefel - mewnbwn ac arfer ar lefel sylfaenol, ac roedd yn teimlo bod dulliau gwell o ymgysylltu â phobl ifanc, er enghraifft y rhyngrwyd. Soniodd MT am ddarn o waith a wnaed gan Barnardo’s ar lety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal, a’r bylchau a nodwyd, ac yr edrychir arnynt ar hyn o bryd o dan y Ddeddf Tai.

Gan gysylltu â’r hyn a ddywedwyd yn flaenorol; dywedodd DJ bod Voices From Care yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin sy’n cael ei gynnal unwaith y mis yn llyfrgell Llanelli; mae’r grŵp yn gweithio ar Gynllun Ysgol Attachment Aware sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd yng Nghaerfaddon, i gael syniadau pobl ifanc eraill i gyfrannu at y Cynllun. Er bod grŵp Sir Gaerfyrddin, sy’n arwain o ran gwaith ymchwil ynghylch Attachment Aware, yn cynnwys pobl ifanc sy’n brofiadol o ran gofal, mae’r Cynllun ar gyfer yr holl bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin. Soniwyd am y syniad o ddarparu hyfforddiant i athrawon ac ati, a allai gael ei roi ar waith i hyfforddi gweithwyr proffesiynol o ran nodweddion cadarnhaol y Cynllun Attachment Aware, a fyddai, gobeithio’n, ysbrydoli ysgolion i roi’r cynllun AA ar waith.

CAMAU I’W CYMRYD: DJ I ROI ADRODDIAD ADBORTH AR GYNNYDD YN Y CYFARFOD NESAF

Cododd TD y cwestiwn o beth sy’n digwydd i/â rhai sy’n gadael gofal, er enghraifft a ydynt wedi’u heithrio rhag talu’r Dreth Gyngor, fel y maent yn Lloegr. Cynhaliwyd trafodaeth fer ynghylch rhai sy’n gadael gofal a’u bod angen pecyn gofal da iawn.

Unrhyw Fater Arall

Rhoddodd DM wybod yn y cyfarfod, gan mai hwy yw’r arbenigwyr, ei fod yn ceisio llunio pecyn hyfforddi a datblygu yn uniongyrchol gan bobl ifanc sy’n derbyn gofal ar gyfer Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Nodwyd  y byddai cynllun gwaith y Grŵp yn cwmpasu gwaith craffu ar ôl deddfu, er enghraifft, i ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sut y mae pethau’n gweithio.

Cafwyd trafodaeth fer ynghylch pryd y bydd y cynllun “Pan Fydda i’n Barod” yn cael ei gyflwyno.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Cytunwyd y dylai’r cyfarfod nesaf gael ei gynnal yn ystod tymor yr hydref ac y dylid neilltuo ystafell gyfarfod fwy i ddarparu lle ar gyfer yr aelodau.

CAMAU I’W CYMRYD: RW I GYSYLLTU Â S. SHARPE

Gan nad oedd unrhyw fater arall, daeth y cyfarfod i ben.